Crochenwaith Nantgarw yn ail ddechrau
- Cyhoeddwyd

Dim ond ambell ddarn o lestri Nantgarw sydd ar ôl ac maent i'w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol ac Amgueddfa V&A yn Llundain
Mae porslen a oedd ar un adeg yn cael ei ddisgrifio fel y ceinaf yng Nghymru yn mynd i gael ei gynhyrchu eto yn Nantgarw.
Mae ymgyrch ddiweddar wedi codi £15,000 at y prosiect a fydd yn digwydd yng nghrochendy Nantgarw ger Caerffili.
Mae Nantgarw yn enwog am y porslen artiffisial hardd a oedd yn cael ei wneud mewn crochendy yno bron i ddwy ganrif yn ôl. Hyd heddiw mae casglwyr yn chwilio am y llestri cain a arferai harddu byrddau brenhinol a theuluoedd bonedd.

Mae'r crochendy yn Nantgarw bellach yn amgueddfa
Cychwynnodd y gwaith o gynhyrchu crochenwaith yn Nantgarw pan ddaeth William Billingsley a'i fab-yng-nghyfraith, Samuel Walker, yno yn 1813. Roedd crochenwaith Nantgarw yn galw am dymheredd uchel ac oherwydd hynny roedd hi'n anodd cael darnau perffaith.
Ar adegau roedd 90% o'r gwaith yn cael ei ddifetha yn ystod y broses danio ac felly doedd 'na ddim oes hir i'r crochendy oherwydd colledion ariannol.
Erbyn hyn mae arbenigwyr yn credu eu bod wedi dod o hyd i rysáit y llestri gwrieddiol ac maent yn paratoi ar gyfer ei ddefnyddio.
Mae'r ymgyrch, sydd hefyd yn cael grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi denu 119 o gefnogwyr mor belled.
Bydd y rhai sydd wedi cyfrannu at y fenter yn cael eu gwobrwyo naill ai gyda taith o gwmpas yr amgueddfa neu ag un o'r darnau newydd a fydd yn dod o'r crochendy.


Bydd rysáit tebyg i'r un gwreiddiol yn cael ei ddefnyddio i wneud llestri modern
Mae union rysáit a dull cynhyrchu y llestri gwreiddiol wedi aros yn ddirgelwch am ddau can mlynedd ond nawr mae ymchwilwyr yn credu eu bod wedi darganfod yr hyn sydd ei angen i wneud llestri o ansawdd tebyg i'r gwreiddiol.
Bydd yr arian yn talu am ddeunyddiau ac odynau.
Meddai Charles Fountain, rheolwr y prosiect: "Nid ymarferiad academaidd mo hwn. Ry'n yn awyddus i gynhyrchu darnau newydd ac annog artistiaid cyfoes i gynhyrchu gwaith o'r porslen unigryw hwn.
"Os yw'r prosiect yn llwyddo, yn 2018/19 ein bwriad yw comisiynu artisitiaid cyfoes i gynhyrchu gwaith a fydd yn cael ei anfon i Lundain i gael ei addurno - yn union fel yr arferid ei wneud yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg.
"Mae'r posibiliadau yn ddiddiwedd.
Ry'n yn hynod falch o'r gefnogaeth rydym wedi'i dderbyn gan y cyhoedd."

Bydd cefnogwyr yr achos yn cael eitemau tebyg i'r gadwen hon