Lluniau: Parti Ponty 2017
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na lot hwyl i'w gael ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd ar 15 Gorffennaf. Roedd hi'n amser i fwynhau Parti Ponty unwaith eto. Dyma rai o uchafbwyntiau'r diwrnod trwy lens y ffotograffydd Steven Sandrey:

Mae Party Ponty wedi dechrau!

Barod am ddiwrnod prysur

Dawnswyr ymroddgar

Y chwaraewyr iwcelele yn taro tant

Criw lliwgar Ysgol y Cymer

Mae gan y tadau yma o Lantrisant leisiau da

Grŵp talentog o Ysgol Llanhari

Jamie Bevan yn perfformio

Bois y Frenni yn morio canu

'Sa fe ddim yn barti heb Jarman!