Cartref Bontnewydd yn agor ar ei newydd wedd

Ar ôl bod yn wag am ddegawd mae yna ddefnydd o'r newydd i hen adeilad go adnabyddus yng Ngwynedd.

Nol ym 1902 fe agorwyd Cartref Bontnewydd gan eglwysi'r Hen Gorff i ofalu am blant amddifad.

Ond rŵan y to hŷn yn bennaf fydd yn cael gofal yno, fel y clywodd gohebydd BBC Cymru, Dafydd Gwynn.