Rhybudd melyn am stormydd all achosi llifogydd i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r rhybudd melyn mewn grym rhwng 01:00 a 22:00 ddydd Mercher
Fe allai stormydd "difrifol" effeithio ar gyflenwadau pŵer ac achosi llifogydd mewn rhannau o Gymru, wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi ail ddiwrnod o rybuddion tywydd.
Mae'r rhybudd melyn mewn grym rhwng 01:00 a 22:00 ddydd Mercher.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y byddai stormydd a glaw "gwasgaredig" yn symud i'r gogledd ar draws Cymru yn y bore.
Bydd y stormydd yn cilio yn y de ond gallai symud i gyfeiriad gogledd-ddwyrain Cymru yn y prynhawn.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai tua 30mm o law ddisgyn mewn awr mewn rhai mannau, gan gynyddu'r siawns o lifogydd yn lleol, tra gall mellt a chenllysg arwain at broblemau gyda chyflenwadau pŵer.