Mae nifer cynyddol o ddynion yn cael eu trin ar gyfer anhwylder bwyta
Mae'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi datgelu ei fod wedi bod yn brwydro cyflwr bwlimia.
Daw wrth i ymchwiliad ddangos bod llai yn cael ei wario ar wasanaethau i drin pobl gydag anhwylderau bwyta yng Nghymru nag yn Lloegr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gwario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r GIG.