Lluniau'r Sioe Fawr: Dydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae'r tywydd wedi troi. Roedd 'na gymylau bygythiol dros Lanelwedd fore Mercher, ond dyw hynny ddim am amharu ar ddiwrnod llawn o gystadlu a mwynhad. Dyma i chi rai o uchafbwyntiau'r diwrnod:

Y ceffylau ar eu gorau er nid felly'r tywydd!

Mae Nick Fediriksen, y bwyellwr anabl o Queensland, Awstralia yn denu edmygwyr newydd

Mae'r tarw Limousin yma o Ddyfnaint yn amyneddgar iawn chwarae teg!

Fydd Freya, Arlow ac Anneli yn teithio adref i'r Fenni ar y tractor oren?

Wel fydde hi ddim yn Sioe Fawr heb Dai!

Dyn ni ddim yn meddwl bod llawer o obaith da'r bwyellwr ar y dde!

Dafydd wrth ei fodd yn cael llofnodion y Gleision...

... a chyn i ni gael cwynion o'r gorllewin 'na, ma' nhw - Y Sgarlets!...

...wedi'r cwbl dyn ni ddim yn hoffi tynnu'n groes!

Mae bywyd yn fêl i gyd

Mae hwn wedi digwyl miloedd o flynyddoedd i gystadlu!

Mae pawb wrth eu boddau gyda'r cobiau Cymreig