'Angen ymddiheuriad cyhoeddus gan Tommo am sylwadau'
- Cyhoeddwyd

Fe dreuliodd Tommo gyfnod oddi ar yr awyr yn dilyn y gwyn yn ei erbyn am y sylwadau a wnaeth yng Ngŵyl Nôl a Mla'n
Mae 'na feirniadaeth o benderfyniad BBC Radio Cymru i ganiatáu i'r cyflwynydd Andrew 'Tommo' Thomas ddychwelyd i'w raglen yr wythnos nesaf.
Cafodd ei dynnu oddi ar yr awyr am gyfnod wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i gwyn yn ei erbyn.
Roedd y gwyn yn deillio o sylwadau a wnaeth Tommo yn ystod Gŵyl Nôl a Mla'n yn Llangrannog ddechrau'r mis, ac nid unrhyw beth gafodd ei ddweud ar yr awyr.
Mae rhaglen Newyddion 9 ar ddeall o sawl ffynhonnell fod y sylwadau yn ymwneud â threisio.
'Annerbyniol'
Dywedodd Llinos Dafydd o Landysul ei bod hi'n siomedig fod y BBC wedi caniatáu iddo fod ar yr awyr eto, ac na fyddai hi'n gwrando ar ei raglen mwyach.
Cafodd hi ei threisio pan oedd hi'n 14, a llynedd fe ysgrifennodd hi am ei phrofiad a'i hymgais i geisio dygymod â'r digwyddiad mewn erthygl i Cymru Fyw.
Doedd hi ddim yn yr ŵyl ble cafodd y sylwadau eu gwneud, ac nid hi chwaith anfonodd y gwyn yn ei erbyn, ond dywedodd ei bod hi'n un o nifer sydd "wedi'u heffeithio" yn dilyn y sylwadau.
"Roedd cael dyn sydd ar y radio yn gwneud [y sylwadau] hyn - dyw e ddim yn dderbyniol, mewn man mor gyhoeddus lle'r oedd teuluoedd a phobl ifanc yn mynychu," meddai.

Dywedodd Llinos Dafydd fod sylwadau Tommo yn "bychanu" trais
"Dwi ddim yn teimlo fod bod yn y gornel ddrwg am bythefnos yn ddigonol. Mae angen i'r BBC a Radio Cymru gymryd camau ac ystyried bod hwn yn bwnc difrifol iawn.
"Dwi ddim eisiau i Tommo golli'i swydd, mae 'di gwneud gwaith da, mae 'di gweithio'n galed i gyrraedd lle 'ma fe. Ond dwi'n meddwl ddylse fe ymddiheuro'n gyhoeddus."
Ychwanegodd: "Os 'dyn ni'n gadael hyn i fynd mae'n rhoi'r neges ei bod hi'n iawn bychanu'r rheiny sydd yn cael eu treisio a gwneud jôc o'r peth.
"Mae cymaint o stigma yn ymwneud â'r pwnc yma dyw hi ddim yn hawdd cymryd y cam yna a dweud 'ces i fy nhreisio'. Ond gyda hyn a Tommo yn dychwelyd i'r gwaith mor fuan, mae'n anfon y neges 'ddylen i ddim siarad mas a ddylen ni ddim siarad am drais'."
'Camau priodol'
Mae BBC Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater yn dilyn datganiad gafodd ei ryddhau ddydd Iau.
Dywedodd y gorfforaeth eu bod wedi cynnal "ymchwiliad mewnol", a chanlyniad hynny oedd bod Tommo "wedi ysgrifennu at drefnwyr Gŵyl Nôl a Mla'n i ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn a ddywedodd tra'n cyflwyno".
"Mae'r BBC yn cymryd cwynion fel hyn o ddifrif ac wedi cymryd camau priodol yn dilyn yr ymchwiliad."
Dyw'r BBC ddim wedi cadarnhau a oedd y sylwadau yn ymwneud â threisio ai peidio.