UKIP: Cais i hepgor AC yn aflwyddiannus
- Cyhoeddwyd

Mae cais i hepgor AC rhanbarthol UKIP yng Ngogledd Cymru wedi cael ei wrthod gan y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC).
Roedd llythyr a gafodd ei ddanfon gan aelodau'r blaid yn y Gogledd yn honni fod Michelle Brown wedi bod yn "anghwrtais" tuag atynt ac roedd 'na gais i weithredu yn ei herbyn.
Cafodd y llythyr ei ddanfon cyn bod recordiad wedi cael ei ryddhau o Ms Brown yn defnyddio term hiliol wrth sôn am Aelod Seneddol Llafur - mater y gwnaeth Ms Brown ymddiheuro amdano.
Ond yn ôl cadeirydd UKIP doedd y llythyr ddim yn dilyn y camau priodol.
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP yn y Cynulliad fod y llythyr wedi cael ei ysgrifennu gan "grŵp bychan a dibwys" na sydd wed bod yn or-hoff o Ms Brown am gryn amser.
Fe gafodd y mater ei drafod gan yr NEC ddydd Gwener.
Olynydd i Paul Nuttall
Yn y cyfarfod hwnnw hefyd fe benderfynwyd caniatàu ymgyrchydd gwrth-Islamaidd i sefyll am arweinyddiaeth UKIP.
Anne Marie Waters a sefydlodd y grŵp pwyso Sharia Watch - grŵp sydd wedi disgrifio Islam fel crefydd ddieflig.
Dywedod AC UKIP avid Rowlands fod Ms Waters siwr o fod yn rhy eithafol i sefyll ond roedd hi wedi honni bod y blaid yn ceisio ei gwthio o'r neilltu.
Yr 11 a gafodd eu cymeradwyo i fod ar y rhestr derfynol o ymgeiswyr ar gyfer etholiad arweinyddiaeth UKIP yw:
David Allen
Henry Bolton
David Coburn
Jane Collins
David Kurten
Marion Mason
Aidan Powlesland
John Rees-Evans
Ben Walker
Anne Marie Waters
Peter Whittle
Piers Wauchope