Colli 102 o swyddi wrth i gwmni adeiladu fynd i'r wal
- Cyhoeddwyd

Bydd 102 o swyddi yn cael eu colli wrth i gwmni adeiladu a chynnal a chadw o Bort Talbot fynd i'r wal.
Mae Contract Services, sydd wedi bod yn gweithredu ym Mhort Talbot a Chaerffili ers 21 o flynyddoedd, wedi dechrau'r broses o ddirwyn y cwmni i ben.
Dywedodd gweinyddwyr bod y cwmni wedi mynd i drafferthion ariannol yn gynharach yn y flwyddyn.
Roedden nhw wedi sicrhau addewidion ariannol o sawl ffynhonnell gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ond fe wnaethon nhw fethu a chodi digon mewn pryd i achub y cwmni.
Mae disgwyl i'r cwmni gael ei ddiddymu ar 22 Awst.
Dywedodd Huw Powell o weinyddwyr Begbies Traynor: "Mae'n siomedig gweld busnes amlwg o Gymru yn gorfod cau eu drysau yn y ffordd yma ar ôl blynyddoedd o fasnachu'n llwyddiannus."
Ychwanegodd y byddai'r gweinyddwyr yn cysylltu â'r holl gredydwyr dros y dyddiau nesaf gyda rhagor o fanylion am y broses ddiddymu.