Achub gafr fu'n sownd am wythnos ar Ben y Gogarth
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i'r tîm abseilio o uchder i achub yr afr
Mae tîm o weithwyr RSPCA wedi achub gafr a fu'n sownd ar glogwyn ym Mhen y Gogarth, Llandudno am dros wythnos.
Fe aeth yr afr i drafferthion ar ddarn o'r graig sy'n edrych dros y môr, pan redodd allan o fwyd i'w fwyta.
Yn y diwedd bu'n rhaid i'r achubwyr abseilio o uchder o 30m uwchben lle'r oedd yr afr, cyn llwyddo i'w dal ac yna'i chludo 20m arall i dir cadarn.
"Yn ffodus ni chafodd yr afr niwed ar ôl cael ei dal, ac rydym wrth ein bodd fod tîm rhaff Gogledd Cymru wedi gallu achub anifail arall oedd yn sownd," meddai Andrew Broadbent o'r RSPCA.

Penderfynodd y tîm fynd i achub yr anifail wedi iddi redeg allan o fwyd ar ochr y dibyn