Lle oeddwn i: Barcelona 1992
- Cyhoeddwyd

Roedd hi am ddod o hyd i 'job go iawn' ar ôl y Gemau Paralympaidd yn Barcelona yn 1992, ond yn sgil ei llwyddiant yn Sbaen fe newidiodd blaenoriaethau Tanni Grey-Thompson yn llwyr.
Yn ystod y gemau, enillodd Tanni bedair medal aur yn y rasus cadair olwyn dros 100m, 200m, 400m a 800m a thorri dwy record byd. Aeth yn ei blaen i ennill 7 medal aur arall: 1 yn Atlanta (1996), 4 yn Sydney (2000) a 2 yn Athen (2004).
Fel petai hynny ddim yn ddigon, fe dorrodd 30 o recordiau byd yn ystod ei gyrfa ac ennill y ras gadair olwyn ym Marathon Llundain chwe gwaith.
Er ei bod hi bellach wedi ymddeol o'r byd cystadleuol, mae hi'n parhau i ymgyrchu yn ddiflino dros hawliau pobl anabl yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Chwarter canrif ers ei llwyddiant ysgubol yn Barcelona bu'n hel atgofion gyda Cymru Fyw:

Erbyn i mi gyrraedd Barcelona ro'n i yn dal record y byd yn y pedair cystadleuaeth (100m, 200m, 400m, 800m). Felly, roedd yna ddisgwyliad i mi berfformio yn y gemau, ac ro'n i'n teimlo'n hyderus ond roedd yn rhaid i mi berfformio ar y dydd.
Y Gemau Paralympaidd yma oedd y cyntaf i gael llawer o sylw gan y BBC a dwi'n cofio bod rhaglen Blue Peter allan yna. Roedd y diweddar Helen Rollason, gohebydd Grandstand, yn anhygoel gan ei bod hi'n awyddus i roi sylw i ddoniau'r athletwyr yn hytrach na gwneud stori human interest.
Gan fod Gemau Olympaidd Barcelona wedi bod yn gymaint o lwyddiant, dwi'n meddwl bod 'na lot o newyddiadurwyr wedi ffansio cwpl o wythnosau arall yn yr haul, ac yn fodlon aros ar gyfer y Gemau Paralympaidd felly roedd gohebwyr chwaraeon papurau newydd fel The Times a'r Telegraph yn dal yno.
Mae nifer yn meddwl mai Gemau Paralympaidd 2012 roddodd y campau paralympaidd ar y map ond dwi'n cofio'r stadiwm yn llawn yn Barcelona hefyd, yn sicr yn ystod y sesiynau gyda'r nos. Ond gan nad oedd y torfeydd efallai cystal yn y Gemau diweddarach, efallai fod bobl yn anghofio pa mor wych oedd Barcelona.

Tanni gyda'i chasgliad faith o fedalau
Yr adeg honno roedd 'na gyfle i gymryd rhan mewn demonstration race yn ystod y Gemau Olympaidd eu hunain. Rhoddodd hynny gyfle i mi gefnogi Colin Jackson, hefyd o Gaerdydd, yn y ras 110m dros y clwydi.
Es i'r stadiwm yn gynnar ar gyfer ffeinal Colin, ac roeddwn mewn man da wrth y llinell derfyn. Ond pan ddechreuodd y ras fe wnaeth bawb sefyll felly doeddwn i ddim yn gallu gweld dim - fe gollais y cyfan! Roedd rhaid i mi aros i weld y ras pan oedd yn cael ei ail-ddangos ar y sgrin fawr!
Nerfau ar y trac
Roedd 'na awyrgylch gwych yn y bloc o fflatiau ble ro'n i'n aros 'da aelodau eraill tîm Prydain. Roedd yr athletwyr mewn cadeiriau olwyn yn arbennig o gefnogol i'n gilydd.
Ro'n i'n hollol nerfus wrth gystadlu yn y ffeinal cyntaf, a wnaeth hynny ddim newid drwy fy ngyrfa. Roedd e mor gyffrous bod ar y trac, achos o'n i wedi cael cwpl o ddyddiau i aros wedi'r seremoni agoriadol.
Yn sicr fe wnaeth Barcelona newid fy ngyrfa. Er fy mod i wedi ennill medal efydd yn Seoul bedair blynedd ynghynt, nes i dorri record byd dros 100m a 400m, a fi oedd y ddynes gyntaf i wneud 400m mewn llai na munud.
Wedi hynny roeddwn i'n meddwl y buaswn i'n gallu mynd yn gyflymach eto.

Y byd yn agor
Tyfodd diddordeb y cyfryngau yn y Gemau Paralympaidd wedi 1992 ond roedd Barcelona yn arbennig iawn.
Rhoddodd Barcelona '92 y cyfle i mi wneud pethau fel Question of Sport ac wedi Atlanta '96 ro'n i ar This is Your Life - sy'n rhyfedd i'w wneud pan yn 26!
'Nes i ennill Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru yn 1992, 2000 a 2004 a oedd mor wych. Un o'r pethau dwi'n falch iawn ohono hefyd yw ennill Sportswoman of the Year gan y Sunday Times yn 1993, gyda Sally Gunnell yn dod yn ail.
Roedd hynny yn enfawr i fi - roedd pobl yn ok efo fi ac yn fy nerbyn i ac yn fy nhrin i fel athletwraig hefyd.
Roedd fy mam yn deall dipyn o Gymraeg, ond roedd fy nain a taid yn rhugl. Rwy'n byw yn Lloegr oherwydd swydd fy ngŵr, a dydw i ddim yn cael y cyfle i ymarfer mor aml â fyswn i'n ei hoffi. Ond roedd cael mynd ar Cariad@iaith ar S4C i ddysgu mwy o Gymraeg yn gyfle gwych i mi.
Mi ges i'r cyfleoedd yma i gyd oherwydd fy ngyrfa, ac mewn ffordd fe ddechreuodd y cyfan yn Barcelona.
