Trenau'n ailgychwyn ar ôl i gwch daro pont rheilffordd
- Cyhoeddwyd

Mae trenau rhwng Y Bermo a Machynlleth wedi ailgychwyn ar ôl i gwch hwylio daro pont rheilffordd nos Lun.
Roedd y gwasanaethau ar y rheilffordd wedi eu hatal am gyfnod ar ôl i'r cwch 30 troedfedd lithro oddi ar ei angorfa ar arfordir Abermaw a tharo'r bont sy'n croesi dros aber yr Afon Mawddach.
Doedd neb ar y cwch ar y pryd.
Does dim difrod wedi ei wneud i'r bont meddai Network Rail.