Dyn yn dwyn o siop wedi gwisgo fel gwrach
Mae dyn wedi'i garcharu am oes wedi iddo ddefnyddio cyllell i ddwyn o archfarchnad pan oedd wedi gwisgo fel gwrach.
Roedd Nicholas Overton, 39, yn gwisgo'r wisg ffansi mewn ymgais i beidio cael ei adnabod wrth iddo ddwyn o siop Co-op yng Nghasnewydd ar 7 Gorffennaf.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod wedi teithio o Lundain, a'i fod wedi defnyddio machete yn ystod y digwyddiad.
Plediodd yn euog i ddwyn, bod ag arf bygythiol a gyrru'n beryglus, a bydd rhaid iddo dreulio isafswm o bedair blynedd dan glo.