Ble mae Abertawe?
- Cyhoeddwyd

Ble ddylai Abertawe fod? Dyma'r drafodaeth yn swyddfa Cymru Fyw ar 31 Awst.
Pam hynny meddech chi? Mae darllenydd wedi cysylltu gyda'r wefan yn gwneud y pwynt bod Abertawe yn rhan o hen sir Gorllewin Morgannwg, a bod y de orllewin yn cynnwys siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin.
Dŵr dan y bont?
Mae'r ohebiaeth yn awgrymu felly y dylai newyddion am Abertawe gael ei gynnwys yn ein hadran De Ddwyrain yn hytrach na'r De Orllewin fel ag y maen nhw ar hyn o bryd.

De orllewin ynte de ddwyrain?
Roedd 'na hen goel yn y gorllewin gwyllt ar un adeg eich bod chi yn gadael y gorllewin wrth groesi hen bont afon Llwchwr.
Fel y gwelwch chi ar y map isod mae'n hawdd gweld pam bod y gred honno yn bodoli.

Wel... gorllewin neu ddwyrain?
Ond beth am eich barn chi?...
Gorllewin ynte dwyrain? Ble ddylai Abertawe fod?
Cysylltwch gyda ni:
cymrufyw@bbc.co.uk
Tan bod y ddadl hon wedi ei setlo bydd y stori i'w gweld ymhlith straeon y de orllewin a'r de ddwyrain!