Arestio pedwar mewn ymgyrch gwrth-natsïaidd
Mae AS Maldwyn, Glyn Davies, wedi dweud bod "posib i derfysgwr ddod o unrhyw le" ar ôl i ddyn o Bowys gael ei arestio ar amheuaeth o drefnu gweithredoedd terfysgol.
Mae'r dyn, a thri arall, dan amheuaeth o fod yn aelodau o'r grŵp asgell dde eithafol National Action.
Adroddiad Rhodri Llywelyn.