Gwobrau Awst i Gaerdydd a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd

Fe arwyddodd Neil Warnock gytundeb newydd gyda Chaerdydd ar ddechrau'r tymor
Wrth i'r gynghrair bêl-droed yn Lloegr gyhoeddi enillwyr gwobrau'r mis ar gyfer Awst, roedd nifer o unigolion o glybiau Cymru yn llwyddiannus.
Mae dau o'r gwobrau yn mynd i glwb Caerdydd ac un i Gasnewydd.
Rheolwr yr Adar Gleision, Neil Warnock yw Rheolwr y Mis yn y Bencampwriaeth ar gyfer Awst wrth i Gaerdydd barhau ar frig y tabl.
Mae'r asgellwr Nathaniel Mendez-Lang hefyd wedi'i enwi'n Chwaraewr y Mis yn y gynghrair ar ôl i Gaerdydd ennill eu pum gêm agoriadol o'r tymor.
Yn dilyn dechrau da Casnewydd yn yr ail adran mae eu hymosodwr Frank Nouble wedi ei enwi'n Chwaraewr y Mis yn Adran 2.
Bydd Caerdydd yn wynebu taith i Fulham yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn tra bydd Casnewydd yn croesawu Wycombe Wanderers i Rodney Parade yn Adran 2.