Fulham 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd yn dal yn gyntaf yn y Bencampwriaeth
Mae rhediad diguro Caerdydd yn y Bencampwriaeth yn parhau yn dilyn gêm gyfartal yn Fulham.
Er i Fulham reoli'r meddiant, roedd hi'n ddi-sgôr cyn i ergyd Ryan Sessegnon roi'r tîm cartref ar y blaen.
Ond tarodd bechgyn Neil Warnock yn ôl wyth munud yn ddiweddarach, gyda Danny Ward yn penio i gefn y rhwyd o groesiad Liam Feeney.
Mae Caerdydd yn dal ar frig y Bencampwriaeth, dau bwynt o flaen Leeds, sy'n ail.