Penbedw yn nodi canrif ers Eisteddfod y Gadair Ddu

Roedd nifer o ddigwyddiadau ym Mhenbedw ger Lerpwl ddydd Sadwrn wrth i'r dref nodi canrif ers Eisteddfod y Gadair Ddu.

Dywedodd un o'r trefnwyr, y Parchedig D. Ben Rees, y byddai'r penwythnos yn "benllanw" i'r flwyddyn o gofio Hedd Wyn a'r Rhyfel Mawr.