Zebre 10-41 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd y Scarlets bum cais i guro Zebre a sicrhau pwynt bonws yn y Pro 14.
Er i'r tîm cartre' fynd ar y blaen gyda chic gosb yn fuan, daeth y cochion yn ôl i ennill yn gyfforddus.
Roedd ceisiadau i Johnny McNicholl, Steff Evans, Paul Asquith, Tadhg Beirne ac Aled Davies, gyda Rhys Patchell yn sgorio'r gweddill gyda'i droed.
Sgoriodd Mattia Bellini gais cysur hwyr i Zebre, ond mae'r Scarlets nawr ar frig Adran B, gyda 10 pwynt o ddwy gêm gyntaf y tymor.