Cwest: 'Hofrennydd methu glanio achos gêm bêl-droed'
- Cyhoeddwyd

Roedd Geraint Roberts yn un o bum person gafodd eu lladd yn y digwyddiad - cafodd pump arall eu hanafu
Mae cwest wedi clywed fod hofrennydd wedi plymio i'r ddaear yn Afghanistan ar ôl methu â glanio ar gae pêl-droed oherwydd fod chwaraewyr arno.
Cafodd pum person, gan gynnwys Cymro oedd yn swyddog yn y llu awyr, eu lladd yn y digwyddiad ger Kabul ar 11 Hydref 2015.
Roedd yr hofrennydd Puma Mk 2 yr oedd Geraint 'Roly' Roberts yn teithio ynddi yn ceisio glanio ym mhencadlys Nato ger y brifddinas.
Dywedodd adroddiad i'r digwyddiad gafodd ei chyhoeddi fis Rhagfyr y llynedd fod yr hofrennydd wedi mynd yn sownd yn nhennyn balŵn wyliadwriaeth gyfagos ar ôl gorfod hedfan o gwmpas y cae.
Roedd yr awyr-lefftenant Roberts, oedd yn dod o'r Rhyl ac yn dad i ddau o blant, yn 44 oed pan fu farw.
Clywodd y cwest ei fod wedi marw ar ôl cael anaf i'w ben ac y byddai hyn wedi golygu ei fod yn anymwybodol.
Dywedodd adroddiad gan y patholegydd nad oedd yna unrhywbeth y byddai unrhyw un arall wedi gallu gwneud i achub ei fywyd.
'Anodd ei weld'
Clywodd y cwest hefyd dystiolaeth gan y sarsiant Simon Craig, oedd yn hedfan mewn ail hofrennydd oedd hefyd yn bwriadu glanio ar yr un cae.
"Wrth i ni gyrraedd, nes i sylwi'n reit hwyr fod nifer o chwaraewyr ar y cae," meddai.
"Roedd yn rhaid i ni hedfan ymhellach i'r dwyrain gan nad oedd modd i ni lanio ar y cae tan iddo gael ei glirio."
Dywedodd eu bod wedi cael gwybod am y balŵn, ond fod y tennyn oedd yn ei gysylltu yn "anodd ei weld".
Ychwanegodd nad oedd wedi gweld yr hofrennydd arall yn taro'r tennyn, ond ei fod wedi clywed synau ar y radio a'i bod hi'n "amlwg fod rhywbeth wedi mynd o'i le".
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2015
