Cynghorwyr Conwy yn gwrthod caniatâd i adeiladu 110 o dai
- Cyhoeddwyd

Bu tua 150 o bobl yn protestio yn erbyn y cynlluniau fis diwethaf
Mae cynghorwyr Conwy wedi gwrthod cynlluniau i adeiladu 110 o dai yn Neganwy.
Fe bleidleisiodd y cyngor yn erbyn argymhellion y cynllunwyr i fwrw 'mlaen â'r datblygiad ger Heol Pentywyn a Marl Lane.
Fodd bynnag, bydd yn rhaid cadarnhau'r penderfyniad yng nghyfarfod pwyllgor cynllunio'r awdurdod fis nesaf, gan eu bod wedi mynd yn erbyn yr argymhelliad.
Gwrthododd y cynghorwyr y cynlluniau gan Beech Developments (NW) Ltd yn dilyn dadl ddwy awr ddydd Mercher.
Daeth tua 150 o bobl i brotestio yn erbyn y cynlluniau fis diwethaf, gan honni bod yr ardal eisoes wedi'i gorddatblygu.
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy'n berchen ar Neuadd Bodysgallen gerllaw, y byddai'r datblygiad yn "niweidio" yr ardal.
Fe wrthododd y cyngor gais gynllunio yn llynedd gan yr un cwmni, ar gyfer cynlluniau i adeiladu 93 o dai mewn rhan arall o'r sir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017

- Cyhoeddwyd26 Hydref 2016
