Philip Pullman: Torri Llên Cymru yn 'groes i'r graen'

  • Cyhoeddwyd
Philip Pullman

Mae'r awdur Philip Pullman wedi dweud bod toriadau arfaethedig i gorff sy'n hyrwyddo darllen ac ysgrifennu yn mynd yn groes i'r graen.

Ym mis Mehefin cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates ei fod eisiau rhoi llai o arian a chwtogi cyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru.

Daeth ei benderfyniad yn dilyn adroddiad damniol a gomisiynwyd gan y llywodraeth, a ddywedodd fod y corff "yn ymddangos yn ansicr ynghylch ei bwrpas priodol".

Mewn llythyr at ACau, mae Mr Pullman, sy'n noddwr i Lenyddiaeth Cymru, yn dweud fod ganddo bryderon am yr adroddiad, a bod y cynigion i ddileu rôl y corff yn "wrthnysig iawn".

Mae Gillian Clarke, cyn-fardd cenedlaethol Cymru, hefyd yn dweud ei bod yn "synnu" gan gynnwys yr adolygiad, dan arweiniad is-ganghellor Prifysgol Cymru, Medwin Hughes.

Llenyddiaeth Cymru

Mae Aelodau Cynulliad sy'n eistedd ar y pwyllgor diwylliant trawsbleidiol i fod i glywed tystiolaeth am yr adolygiad ddydd Mercher.

Fe gafodd Llenyddiaeth Cymru ei ffurfio yn 2011, ac mae ganddynt gyllideb flynyddol o fwy na £1m, gan gynnwys grant y llynedd o £717,000 gan Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae'r corff yn rhedeg gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru, yn darparu bwrsariaethau ar gyfer awduron ac yn rhedeg canolfan ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy.

Ond dan gynlluniau Mr Skates, bydd llawer o ddyletswyddau'r corff yn cael eu rhoi i Gyngor Llyfrau Cymru.

Mae hefyd wedi dod i'r amlwg fod Mr Skates wedi dweud wrth benaethiaid Llenyddiaeth Cymru a chyrff celfyddydol eraill ym mis Gorffennaf y byddai'n gwrando ar eu pryderon ynghylch "cywirdeb, cwmpas, didueddrwydd ac effeithiolrwydd strategol" adroddiad yr Is-ganghellor Hughes cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Straeon perthnasol