£30m ychwanegol i gwmnïau adeiladu bach a chanolig
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i fusnesau bach a chanolig glywed ddydd Iau y byddan nhw'n derbyn £30 miliwn yn ychwanegol i'w galluogi i adeiladu cartrefi newydd.
Yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant, fydd yn gwneud y cyhoeddiad ac fe fydd yr arian yn cael ei dalu i Gronfa Datblygu Eiddo Cymru.
Dywedodd Mr Sargeant: "Cafodd adeiladwyr cartrefi bychain a chanolig eu taro'n arbennig o wael gan yr argyfwng economaidd byd-eang ac maen nhw'n dal i deimlo'r effeithiau.
"Gobeithio y bydd ehangu'r Gronfa Datblygu Eiddo yn cael effaith sylweddol drwy helpu busnesau bach a chanolig eu maint sy'n adeiladu cartrefi ac annog mwy o gwmnïau lleol i fynd yn ddatblygwyr."
Bydd y gronfa benthyg sy'n cael ei rhedeg gan Gyllid Cymru yn cefnogi cwmnïau adeiladu bach a chanolig eu maint nad ydynt yn gallu dod o hyd i gyllid fforddiadwy o ffynonellau traddodiadol.

Ychwanegodd Mr Sargeant: "Rydyn ni wedi pennu targed uchelgeisiol o greu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y llywodraeth hon.
"Wrth i ni weithio i gwrdd â'n targed, rwyf am weld cynifer o dai â phosibl yn cael eu darparu gan fusnesau bach a chanolig eu maint gan ddatblygu capasiti newydd yn y sector.
Creu swyddi
Dywedodd Cenydd Rowlands, Rheolwr Cronfa Eiddo Cyllid Cymru: "Mae'r £30 miliwn ychwanegol yn hwb mawr i'r gronfa a hefyd, gyda thîm mwy o faint yn ei le, mae'n dda gennym allu rhoi cymorth i ragor o ddatblygwyr bach a chanolig eu maint.
Bydd y prosiectau preswyl a chymysg eu defnydd y gallwn eu hariannu yn cael effaith uniongyrchol ar eu cymunedau lleol drwy sicrhau cyfleoedd am swyddi yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn ogystal â darparu tai o safon y mae gwir eu hangen."