Cwpan Carabao: Abertawe i wynebu Manchester United

  • Cyhoeddwyd
Abertawe v Man UtdFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i Man Utd chwarae ar Stadiwm Liberty fe gollodd Abertawe o 4 gôl i 0

Bydd Abertawe gartref ym mhedwaredd rownd Cwpan y Gynghrair ac yn wynebu'r deiliaid Manchester United.

Fe wnaeth Abertawe sicrhau eu lle yn y bedwaredd rownd wedi'r fuddugoliaeth o 2-0 oddi cartref yn erbyn Reading nos Fawrth.

Y tro diwethaf i Abertawe wynebu Manchester United yn y gynghrair ar ddechrau'r tymor fe wnaeth yr Elyrch golli o 4-0.

Bydd y gemau yn cael ei chwarae yn yr wythnos sy'n dechrau ar 23 Hydref.