Gyrrwr bws yn achosi marwolaeth dynes ar ei shifft gyntaf

  • Cyhoeddwyd
jay stolzenbergFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ers naw mis yr oedd Jay Stolzenberg wedi pasio ei brawf gyrru

Mae dyn o Faesteg wedi cael dedfryd ohiriedig ar ôl lladd mam-gu 76 oed ar ei shifft gyntaf fel gyrrwr bws.

Fe wnaeth Jay Stolzenberg, 25, daro'r bws i mewn i ochr car oedd wedi'i barcio fel oedd Glenys Thomas yn ceisio dringo mewn i'r cerbyd.

Cafodd Mrs Thomas ei hanafu'n ddifrifol wedi i'r car gael ei wthio drosti, a bu farw yn yr ysbyty dri mis yn ddiweddarach o ganlyniad i'r anafiadau.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod Stolzenberg ond wedi pasio ei brawf gyrru naw mis cyn y digwyddiad ger canolfan siopa McArthurGlen ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

'Amlwg ddim yn saff'

Ar y pryd roedd yn gyrru'r bws am y tro cyntaf wrth gael ei oruchwylio gan yrrwr profiadol, Allan Stent.

Fe wnaeth camerâu cylch cyfyng ar y bws ddangos Stolzenberg yn taro cefn y car Renault glas, a hynny wedi i'r cerbyd stopio i gasglu Mrs Thomas a rhwystro rhan o'r ffordd.

Dywedodd yr erlynydd James Wilson fod yr hyn wnaeth Stolzenberg yn "ddiofal", ac y dylai fod wedi cymryd mwy o ofal o wybod fod cerddwyr yn sefyll ar hyd y lon fysiau.

"Fe ddylai wedi bod yn fwy gofalus o gwmpas yr arhosfan fysiau, hyd yn oed os nad oedd e'n fan penodedig i gar barcio. Wnaeth e ddim ymateb yn gywir i gar oedd yn llonydd," meddai.

marwolaeth glenys thomasFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Delweddau CCTV yn dangos Glenys Thomas yn dringo i'r car eiliadau cyn y digwyddiad

"Ei gyfrifoldeb e oedd ymddwyn mewn ffordd saff, ac fe allai'n hawdd fod wedi osgoi'r gwrthdrawiad wnaeth achosi marwolaeth Mrs Thomas. Roedd hi'n ddefnyddiwr ffordd bregus."

Dywedodd y barnwr Philip Harris-Jenkins fod Stolzenberg wedi "ceisio cyflawni symudiad pan oedd hi'n amlwg ddim yn saff i wneud hynny".

Fe wnaeth Stolzenberg gyfaddef i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Cafodd ei ddedfrydu i 27 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i gyflawni 150 awr o waith di-dâl.

Mae hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd, a bydd yn gorfod pasio prawf estynedig er mwyn cael ei drwydded yn ôl.