Gwobr i arweinydd ifanc yr Urdd
- Cyhoeddwyd

Ethan Williams o Rhondda Cynon Taf yw enillydd gwobr yr Arweinydd Ifanc yng Ngwobrau Ifanc Cymru eleni.
Mae e'n gwirfoddoli mewn sawl ffordd gyda Urdd Gobaith Cymru. Mae'n aelod o Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol Yr Urdd ac yn Gadeirydd Fforwm Ieuenctid Rhondda Cynon Taf.
Mae Ethan hefyd yn gwirfoddoli a chynorthwyo wrth drefnu digwyddiadau i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd ac yn hyfforddwr mewn clybiau chwaraeon i bobl ifanc.
Dywedodd Ethan: "Mae gweithio gydag a chynrychioli pobl ifanc yn fy ngwaith fel aelod o Bwrdd Syr Ifanc, dolen allanol, Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol Cymru wedi bod yn fraint ac wedi fy ngwneud i yn arweinydd hyderus, cefnogol a chymhellgar sy'n ceisio ysbrydoli eraill, yn y ffordd mae'r iaith Gymraeg wedi fy ysbrydoli i.
"Mae'n arweinwyr ni yn brwydro i sicrhau bod gan Gymru hunaniaeth a bod ein traddodiadau a'n egwyddorion Cymreig yn cael eu cynnal am flynyddoedd i ddod."
Derbyniodd Ethan ei wobr mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 21 Medi.