Cynllun i ddenu pobl newydd i'r diwydiant melinau gwlân

Mae Ann Whittall, rheolwr Amgueddfa Wlân Cymru yn gobeithio cynnig prentisiaeth er mwyn denu pobl i'r diwydiant melinau gwlân.

Mae yna bryderon bod y dyfodol yn edrych yn ansicr gydag un perchennog melin wlân yn dweud nad oes gan bobl ifanc y sgiliau na'r arian i gymryd yr awenau.

Ond mae eraill yn dweud bod yna adfywiad yn y byd tecstilau.