Pwysau yn cael 'effaith' ar ddisgyblion ysgol
Bydd cynllun peilot yn dechrau yng Nghymru fydd yn golygu y bydd arbenigwyr iechyd meddwl yn cael eu recriwtio i weithio mewn rhai ysgolion.
Y bwriad yw cynnig help yn gynnar i ddisgyblion sy'n isel eu hysbryd; yn bryderus neu'n bygwth niweidio'u hunain ac atal problemau mwy difrifol rhag datblygu.
Mae Kate Jones yn athrawes Gymraeg ac Arweinydd Cynnydd yn Ysgol Uwchradd Crughywel.
Mae cynlluniau i helpu disgyblion yn bodoli yn yr ysgol.
Mae'n dweud bod y pwysau ychwanegol ar blant heddiw yn medru gadael ei ôl.