'Cywilydd' dim Cymraeg ar drenau yn ardal Porthmadog
Mae Cyngor Tref Porthmadog yn dweud bod diffyg Cymraeg ar Reilffordd y Cambrian yn "gywilyddus".
Yn ôl y cyngor, mae cyhoeddiadau uniaith Saesneg ar y trenau, gydag enwau lleoedd yn cael eu hynganu'n anghywir.
Mae Trenau Arriva Cymru'n dweud bod cyfyngiadau technegol yn golygu bod darparu gwasanaeth dwyieithog ar hyd y rhwydwaith yn "her".