Medal newydd i redwyr hanner marathon

  • Cyhoeddwyd
medalFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd

Mae medal newydd wedi ei dadorchuddio ar gyfer pawb fydd yn gorffen ras hanner marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd y penwythnos nesaf.

Mae'r fedal yn dathlu'r bartneriaeth rhwng y ras a'r brifysgol, ac fe fydd Prifysgol Caerdydd yn parhau fel prif noddwyr y ras tan 2020 ar ôl ymrwymo am dair blynedd arall.

Bydd 25,000 o redwyr yn ceisio croesi'r llinell derfyn ar 1 Hydref, a bydd pob un yn derbyn un o'r medalau newydd.

Prif adeilad y brifysgol sydd wrth galon dyluniad y fedal newydd.

Codi arian

Dywedodd prif weithredwr Run4Wales, Matt Newman: "Mae ein partneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd wedi blodeuo ers pencampwriaeth Hanner Marthon y Byd IAAF a hanner marathon Caerdydd 2016, ac rydym wrth ein bodd i barhau'r berthynas tan o leia' 2020.

"Hanner marathon Caerdydd yw'r ras fwyaf o ran nifer yng Nghymru, a bydd ein partneriaeth gyda phrif brifysgol y wlad ond yn helpu'r digwyddiad i dyfu'n fwy fyth."

Bwriad Prifysgol Caerdydd yw defnyddio'r cysylltiad gyda'r ras i gefnogi ymchwil iechyd drwy annog myfyrwyr, staff a chyn aelodau i godi arian, a bydd dros 250 o lefydd yn y ras yn cael eu rhoi i redwyr sy'n addo codi arian i'r achos.

Fe fydd yr holl arian sy'n cael ei godi gan redwyr #TeamCardiff yn mynd tuag at ymchwil canser, iechyd meddwl eu niwrowyddoniaeth.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan: "Mae angen ymrwymiad, ymarfer a gwaith caled eithriadol i sicrhau medal am orffen, ac ry'n ni'n falch iawn bod delwedd o'n prif adeilad ar y medalau fydd yn cael eu gwisgo gan bobl i ddathlu eu gorchest."