Bad achub newydd yn cyrraedd RNLI Llandudno
- Cyhoeddwyd

Mae bad achub newydd gwerth £2.2m yn cael ei lansio yn Sir Conwy ddydd Sul.
Bydd y cwch math Shannon, sef cwch sy'n cael ei bweru gan jetiau hydro dŵr yn hytrach na phropelor cyffredin yn cyrraedd ei chartref newydd yn Llandudno.
Mae'r cwch yn gallu cyrraedd cyflymder o 25 not sy'n 50% yn gynt na'r cwch blaenorol, fydd yn galluogi i griwiau achub gyrraedd digwyddiadau ynghynt.
Bydd y bad achub newydd wedi'i leoli yng nghartref newydd RNLI Llandudno yn Nghraig-y-Don.
Dywedodd llywiwr bad achub Llandudno, Graham Heritage fod y cwch newydd yn bennod gyffrous yn hanes RNLI Llandudno.
"Mae'n anrhydedd i'r criw gael eu dewis i fod a chyfrifoldeb o gartrefu ein cwch achub pob tywydd," meddai.