Helfa Gelf yn 'brofiad cadarnhaol' i'r holl artistiaid
- Cyhoeddwyd

Mae Ruth Thomas o Landyrnog, Sir Ddinbych yn cymryd rhan yn yr ŵyl
Mae helfa greadigol sy'n croesawu ymwelwyr i stiwdios artistiaid wedi bod yn llwyddiant yn ôl trefnwyr.
Dim ond ychydig ddyddiau sy'n weddill i bobl fynd i fwynhau digwyddiad yr Helfa Gelf, sy'n cynnal cyfres o arddangosfeydd ar hyd y gogledd.
Mae'r ŵyl bellach ar draws pob un sir yng ngogledd Cymru ar wahân i un.
Dywedodd Cadeirydd yr ŵyl Judith Samuel ei fod wedi bod yn brofiad "cadarnhaol" i'r artistiaid sydd wedi cymryd rhan.

Coed Glaslyn gan Barry Skinner
'Ymwelwyr hapus'
"Mae'r artistiaid yn cael cymaint allan ohono. Mae'n gyfle i roi trefn ar eich stiwdio a chael pobl i ddod draw i weld eich gwaith," meddai.
"Mae'r artistiaid sydd wedi cael ymwelwyr i gyd wedi bod yn hapus."

Mae Ceri Williams yn siop 'Ladder Store Studios' yn Llandudno, Conwy, yn cynhyrchu 'Bobl Bach'
Fe ddechreuodd yr Helfa Gelf yn 2006 yng Nghonwy.
Mae'r ŵyl wedi tyfu pob blwyddyn a bellach yn ymestyn o Ddolgellau yng Ngwynedd at Wrecsam ac ar hyd sir Ddinbych a sir y Fflint.
Mae'r ŵyl yn cael ei hariannu'n rhannol gan Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn cael cefnogaeth gan Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol.
Ychwanegodd Ms Samuel: "Mae'r ŵyl yn tyfu ac yn datblygu pob blwyddyn ac rydym wedi cael arddangosfeydd gwych y flwyddyn yma.
"Rydym yn denu ymwelwyr o du hwnt i ogledd Cymru. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol i'r holl artistiaid sy'n cymryd rhan," meddai.

Mae Dorothy Taylor o Nercwys, Sir y Flint yn cael ei hysbrydoli gan dirwedd Cymru