Rali yn Aberystwyth i gefnogi annibyniaeth i Gatalwnia
- Cyhoeddwyd

Un o drefnwyr y rali yn Aberystwyth oedd Llywydd y Cynulliad Elin Jones AC, a dywedodd ei bod hi'n falch ei bod hi'n "medru dangos cefnogaeth i bobl Catalwnia."
Fe wnaeth tua 100 o bobl gasglu ar sgwâr Glyndŵr yn Aberystwyth ddydd Sadwrn mewn rali i ddangos eu cefnogaeth i bobl Catalwnia.
Nod y cyfarfod oedd cael pobl o "bob plaid ac o bob safbwynt i ddangos eu cefnogaeth i hawl bobl Catalwnia i bleidleisio ar eu dyfodol eu hunain, yn heddychlon a democrataidd."
Mae llywodraeth y rhanbarth yn erbyn gorchymyn gan Lys cyfansoddiadol Sbaen i atal refferendwm ar annibyniaeth ar 1 Hydref, sydd eisoes wedi'i basio gan y Senedd yng Nghatalwnia fis diwethaf.
Mae'r heddlu wedi arestio sawl swyddog blaenllaw yng Nghatalwnia mewn ymdrech i stopio'r refferendwm rhag digwydd.

Elin Jones AC yn siarad yn y rali yn Aberystwyth
Ymhlith y siaradwyr yn Aberystwyth oedd, Meic Birtwhistle, Sion Jobbins a Simon Thomas AC.
Un o drefnwyr y rali ac un arall o'r siaradwyr oedd Llywydd y Cynulliad Elin Jones AC, a dywedodd ei bod hi'n falch ei bod hi'n "medru dangos cefnogaeth i bobl Catalwnia."