Uwch Gynghrair Lloegr: Abertawe 1-2 Watford

  • Cyhoeddwyd
Abertawe v WatfordFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roque Messa yn colli'r bêl cyn i Richarlison sgorio'r ail gôl i Watford

Colli oedd hanes Abertawe yn erbyn Watford ddydd Sadwrn wrth i'r ymwelwyr sgorio gol hwyr yn stadiwm Liberty.

Fe aeth Watford ar y blaen yn haeddiannol wedi 13 munud o'r gêm diolch i gol gan Andre Gray.

Fu bron i Watford ddyblu'r fantais ar ôl 33 munud, ond roedd Andre Carrillo yn camsefyll.

Fe ddechreuodd yr Elyrch yr ail hanner yn gryfach ar ôl i Paul Clement wneud dau eilydd gyda Tammy Abraham a Roque Mesa yn dod ymlaen i'r maes yn lle Mike van der Hoorn a Sam Clucas.

Tammy AbrahamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tammy Abraham sgoriodd i Abertawe

Fe wnaeth Abertawe unioni'r sgôr wedi 55 munud ar ôl i golwr Watford, Heurelho Gomes ollwng ergyd gan Jordan Ayew i lwybr Tammy Abraham ac fe sgoriodd yr ymosodwr gol gyntaf Abertawe yn stadiwm Liberty y tymor hwn.

Er i Abertawe reoli'r ail hanner fe ildion nhw gol gyda dim ond dau funud o'r gêm yn weddill.

Camgymeriad gan Roque Mesa i Abertawe ac fe wnaeth Richarlison ei gosbi drwy redeg gyda'r bêl a sgorio er i Alfie Mawson wneud ei orau i'w daclo.

Fe ddaeth y gêm i ben gyda chwaraewyr Abertawe yn gadael y cau gyda golwg siomedig ar eu hwynebau.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn y 14eg safle yn nhabl Uwch Gynghrair Lloegr.