Negeseuon hiliol Caerdydd: Arestio dyn 26 oed

  • Cyhoeddwyd
sgrin stryd y frenhinesFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi arestio dyn mewn cysylltiad â digwyddiad pan gafodd negeseuon hiliol eu dangos ar sgrîn fawr yng nghanol Caerdydd.

Ymhlith y delweddau gafodd eu dangos ar y sgrîn ar Heol y Frenhines roedd cartwnau asgell dde eithafol, swastica a negeseuon am Islam.

Cafodd y lluniau eu llwytho yno gan haciwr ym mis Awst, ac fe gafodd y delweddau eu dangos mewn fideo ar-lein i bobl ar draws y byd.

Fe gafodd dyn 26 oed o ardal y Rhath, Caerdydd ei arestio ar 22 Medi ar amheuaeth o gyflawni troseddau hacio cyfrifiadurol.

Fe gafodd y dyn ei ryddhau tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

sgrin stryd y frenhinesFfynhonnell y llun, Wales News Service

Straeon perthnasol