Cosbi tîm criced Caeriw yn Sir Benfro wedi gêm ddadleuol

  • Cyhoeddwyd
Clwb Criced CaeriwFfynhonnell y llun, Clwb Criced Caeriw
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y llun hwn ei rhoi ar y gwefannau cymdeithasol gan glwb Caeriw ar ôl iddyn nhw gipio'r cwpan

Mae tîm criced o Sir Benfro wedi cael eu cosbi ar ôl iddyn nhw gipio pencampwriaeth y sir mewn gêm ddadleuol ddiwedd y tymor, dolen allanol.

Fe enillodd Clwb Criced Caeriw y gêm olaf drwy gau eu batiad yn fuan, gan olygu na fyddai eu gwrthwynebwyr yn gallu cael y pwyntiau bonws fyddai'n eu galluogi nhw i ennill y bencampwriaeth.

Yn dilyn gwrandawiad disgyblu nos Fawrth, bydd Caeriw yn disgyn i'r ail adran y tymor nesaf - ond fe fyddan nhw'n cael cadw'r bencampwriaeth enillon nhw.

Er nad oedd eu tactegau yn mynd yn groes i reolau criced, cafodd y clwb eu cyhuddo o "ddwyn anfri" ar y gamp.