Cymru'n paratoi am gêm dyngedfennol yn Georgia
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Aaron Ramsey ennill ei 50fed cap nos Wener
Bydd Cymru'n herio Georgia yn Tbilisi nos Wener, wrth iddyn nhw geisio cadw eu gobeithion o gyrraedd Cwpan y Byd yn fyw heb Gareth Bale.
Mae gan seren Real Madrid anaf i'w goes, ac mae Marley Watkins, Jazz Richards a James Collins hefyd allan o'r garfan oherwydd anafiadau.
Mae nifer o opsiynnau ar gael i'r tîm hyfforddi am bwy i ddechrau'r gêm yn absenoldeb Bale, gyda Ben Woodburn wedi creu argraff yn y ddwy gêm ddiwethaf a David Brooks yn y garfan am y tro cyntaf.
Mae Cymru'n ail yng Ngrŵp D ar hyn o bryd, a pe byddan nhw'n cadw'r safle hwnnw gallai fod yn ddigon i hawlio lle yn y gemau ail-gyfle fis nesaf.
Bydd carfan Chris Coleman yn chwarae eu gêm olaf yn y grŵp nos Lun, pan fyddan nhw'n croesawu Gweriniaeth Iwerddon i Gaerdydd.
Owain Llŷr a Dylan Griffiths fu yn y Boris Paichadze Dinamo Arena i drafod y gêm dyngedfennol
Mae'n bosib i saith chwaraewr - Aaron Ramsey, Ashley Williams, James Chester, Ben Davies, Joe Ledley, Andy King a Hal Robson-Kanu - fethu'r gêm honno be byddan nhw'n cael cerdyn melyn yn Tbilisi.
Ond mynnodd Coleman ddydd Iau na fyddai hynny ym meddyliau'r chwaraewyr yn erbyn Georgia.
"Os 'dych chi ar gerdyn melyn ac angen cymryd un arall, dyna ni," meddai.
"Yn syml, mae'n rhaid i ni gael perfformiad a chanlyniad. Allwn ni ddim mynd i mewn iddi yn meddwl am yr oblygiadau ar gyfer y gêm nesaf."

Bydd hyd at 2,000 o gefnogwyr Cymru yn y Boris Paichadze Dinamo Arena nos Wener

Mae Williams, Ramsey a Robson-Kanu ymysg y chwaraewyr sydd un cerdyn melyn i ffwrdd o gael eu gwahardd
Ond ni fydd Georgia â'u tîm cryfaf ar y cae chwaith, gyda'u chwaraewr gorau yn y gêm gyfartal 1-1 yng Nghaerdydd - Tornike Okriashvili - allan o'r gêm gydag anaf.
Mae'n dal yn bosib i Gymru ennill Grŵp D, gyda Serbia ar y blaen o bedwar pwynt cyn y ddwy gêm olaf.
Ond mae'n debygol mai ennill y ddwy gêm i orffen yn yr ail safle, a gobeithio y bydd hynny'n ddigon i gyrraedd y gemau ail-gyfle fydd y tîm hyfforddi.
Wyth o'r naw tîm fydd yn gorffen yn ail yn eu grŵp fydd yn hawlio lle yn y gemau ail-gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.
Dilynwch gêm Cymru yn erbyn Georgia ar lif byw arbennig Cymru Fyw o 16:00 ar 6 Hydref.

Mae cryn ddyfalu a fydd Ben Woodburn yn dechrau'r gêm wedi perfformiadau da fel eilydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017

- Cyhoeddwyd2 Medi 2017

- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2017
