Cymell rhywiol: Arestio dyn yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 43 oed wedi ei arestio yn Sir Benfro ar amheuaeth o honiadau yn ymwneud â chymell rhywiol.
Yn ôl Heddlu Dyfed Powys dyw'r dyn ddim wedi ei gyhuddo ond mae wedi ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd prif arolygydd y llu, Steve Davies, bod yr heddlu yn ymchwilio ond na ddylai, "pobl gymryd y gyfraith i'w dwylo'u hunain na gweithredu yn anghyfreithlon."