Teyrngedau gan Heddlu Gwent i heddwas sydd wedi marw
- Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i heddwas ar ôl i'w gydweithwyr geisio ei achub.
Bu farw'r swyddog Steve Jenkins ddydd Gwener ond deallir nad oedd ei farwolaeth yn gysylltiedig gydag unrhyw ddigwyddiad.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert ei fod wedi marw yng ngorsaf heddlu Pillgwenlli yng Nghasnewydd.
Ar trydar dywedodd yr Uwch Gwnstabl, Julian Williams: "Fe wnaeth ei gydweithiwyr ymdrech arwrol i'w achub. Mae ein meddyliau gyda'i deulu."