Cefnogwyr yn cyrraedd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr pêl-droed Iwerddon a Chymru wedi cyrraedd y brifddinas yn eu miloedd - ac mae'r Gwyddelod eisoes yn mwynhau cyfeillgarwch Caerdydd.

Dyma gipolwg mewn lluniau ar gyffro'r diwrnod wrth i Gymru baratoi i herio Iwerddon:

Car
Disgrifiad o’r llun,

Mae Guto, Emyr a Ben yn teithio'r holl ffordd i lawr o Lanfairpwll i gefnogi Cymru

Llywydd
Disgrifiad o’r llun,

Ann Jones ac Elin Jones - Dirprwy Lywydd a Llywydd y Cynulliad

Ian RushFfynhonnell y llun, @ColinBarker75
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ddau gefnogwr lwcus yma y cyfle i gyfarfod un o fawrion pêl-droed Cymru, Ian Rush

Criw TrawsfynyddFfynhonnell y llun, Criw Traws
Disgrifiad o’r llun,

Mae criw Trawsfynydd ar y ffordd i'r de!

cefnogwyr
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl 200 milltir yn y car, mae'r hogiau wedi cyrraedd

Ffans
Disgrifiad o’r llun,

Y Gwyddelod yn cyrraedd ar gyfer y gêm fawr

Baneri
Disgrifiad o’r llun,

Sgarffiau ar gyfer noson hanesyddol

Ffan
Disgrifiad o’r llun,

Wedi cyrraedd yr orsaf

Y teulu James
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu James yn teithio lawr o Benrhyncoch

Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Peint bach i setlo'r nerfau

Iwerddon
Iwan Pryce, Iola Wyn a'r teulu o San Clêr ar eu ffordd
Disgrifiad o’r llun,

Iwan Pryce, Iola Wyn a'r teulu o San Clêr ar eu ffordd

Iwerddon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cymry'n gobeithio nad yw hyn yn gywir!

Ffans
Disgrifiad o’r llun,

Ffrindiau gorau... tan 19:45

Ffans
Disgrifiad o’r llun,

C'mon Cymru!

Cofiwch y gallwch ddilyn y gêm yn fyw heno ar BBC Cymru Fyw, Radio Cymru a S4C. Bydd y cyfan yn dechrau am 19:00 ar Cymru Fyw.