Dynes wedi marw mewn tân ym Mlaenau Ffestiniog
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi dechrau wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod yn dilyn tân mewn tŷ yng Ngwynedd.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig ar ôl 20:30 i gyfeiriad ym Mlaenau Ffestiniog.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau o adeilad ar dân yn y dref.
"Yn anffodus, fe gafodd corff dynes ei ddarganfod, ac mae'r heddlu a'r frigad dân bellach yn ymchwilio i achos y tân, a'r farwolaeth." meddai'r llefarydd.
Cafodd criwiau o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog eu galw i'r digwyddiad.