Dyn 82 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerwent
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a fan yn Sir Fynwy.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A48 yng Nghaerwent am tua 16:15 ddydd Iau.
Bu farw gyrrwr y car, dyn 82 oed, yn y digwyddiad.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.