Dyn yn euog o lofruddio Katrina Evemy yn Llanelli
- Cyhoeddwyd

Bu farw Katrina Evemy rhai dyddiau wedi'r ymosodiad yn ardal Coedlan Y Graig
Mae dyn 22 oed o Lanelli wedi ei gael yn euog gan reithgor o lofruddio ei gariad 19 oed.
Bu farw Katrina Evemy chwe diwrnod ar ôl yr ymosodiad ar 13 Ebrill yng Nghoedlan Y Graig, Llanelli.
Roedd Dylan Harries wedi gwadu'r cyhuddiad gan honni iddo ei darganfod mewn pwll o waed a cheisio ei hachub.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod merch 22 mis oed Ms Evemy yn bresennol pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Gwaedu
Roedd Ms Evemy wedi cael ei thrywanu sawl gwaith yn ei chorff, ei gwddw a'i phen.

Cafodd Dylan Harries ei weld ar gamerâu cylch cyfyng
Yn ystod y gwrandawiad clywodd y llys fod y ddau wedi bod yn cweryla'r noson gynt, a'i bod hi wedi cusanu dyn arall.
Er i Harries honni mai rhywun arall oedd wedi ei lladd roedd olion ei DNA ar y gyllell a'i lladdodd.
Yn ddiweddarach fe wnaeth yr heddlu ddod o hyd i gyllyll tebyg yng nghartref Harries.
Roedd o'n honni na ffoniodd yr ambiwlans yn syth ar ôl darganfod Ms Evemy oherwydd iddo fynd i banig a cheisio stopio'r gwaedu drwy ddefnyddio tyweli.
Fe fydd Harries yn cael ei ddedfrydu dydd Llun.