Dagenham & Redbridge 0-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Kevin Lokko yn cael ei ddanfon o'r cae
Mae Wrecsam wedi codi i'r trydydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl buddugoliaeth hwyr yn Dagenham & Redbridge.
Rhwydodd Craig Robertson i'w gôl ei hun yn yr eiliadau olaf.
Roedd hi'n ddiwrnod diflas i'r tîm cartref ar ôl i Kevin Lokko gael cerdyn coch ar ôl tacl beryglus ar Mark Carrington.