Pryder am fenywod sy'n methu prawf sgrinio
- Cyhoeddwyd

Yn ôl yr elusen mae'r canran sy'n mynychu profion wedi gostwng i'w lefel isaf ers 11 mlynedd
Yn ôl un elusen canser mae angen gweithredu ar frys ar ôl i ffigurau ddatgelu fod nifer y menywod yng Nghymru sy'n mynychu profion sgrinio ar gyfer canser gwddf y groth wedi gostwng i'w lefel isaf mewn 11 o fynyddoedd.
Dywed elusen Jo's Cervical Cancer Trust fod y ffigyrau yn hynod siomedig, gydag un o bob pedair yn penderfynu peidio â mynychu profion.
Mae'r ffigyrau yn dangos fod 77.0% wedi mynychu eleni o'i gymharu â 77.8% y llynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod profion newydd yn golygu gostwng yr angen am ailadrodd profion ond eu bod yn parhau i geisio sicrhau fod y canran sy'n cymryd y profion yn cynyddu.
Yn ôl yr elusen mae'r canran sy'n mynychu hefyd yn amrywio cryn dipyn ac yn ddibynnol ar oedran ac ar ble mae'r person yn byw.
Y Bwrdd Iechyd sydd â'r canran gorau yw Powys gyda 79.5%. Mae hynny'n cymharu ag ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda sydd â'r canran isaf 75.5% ac yna Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 75.7%.
Dywed Robert Music, prif weithredwr elusen Jo's Cervical Cancer Trust, fod angen ei gwneud yn fyw hwylus i fenywod fynychu profion.
"Mae nifer yn ei chael hi'n anodd mynd am brofion - yn enwedig menywod sy'n gweithio. Mae angen system sy'n addasu ar gyfer y byd modern ac arferion gweithio.
"Rydym yn angen yr awdurdodau i edrych ar bosibiliadau fel cynnal profion samplo eich hunan, rhywbeth fyddai o fudd i fenywod sy'n rhy brysur i fynd i feddygfeydd neu sy'n teimlo gormod o embaras."

Achos Sarah o Gaerdydd
"Ar 4 Hydref 2012 fe wnaeth fy mywyd newid am byth. Dyna pryd gefais ddiagnosis o ganser gwddf y groth. Doedd gennyf ddim symptomau, dim poenau dim gwaed. Fe gafodd y cancer ei ddarganfod o ganlyniad i'r prawf smear. Pe na fyddaf wedi cael prawf byddai ddim yma heddiw.
Fe wnaeth y prawf ddangos anghysonderau ac oherwydd hyn fe gefais wahoddiad i gael prawf arall mewn chwe mis yn hytrach na gorfod aros y tair blynedd arferol.
Yn y pendraw ar ôl rhagor o brofion bu'n rhaid i'r meddygon gynnal profion ar rai o'r celloedd a chafwyd cadarnhad fod canser gwddf y groth yn bresennol .
"O fewn tair wythnos ar ôl MRS a rhagor o brofion fe gefais lawdriniaeth hysterectomi yn 39 oed.


Mae sgrinio ar gyfer canser gwddf y groth yn arbed tua 5,000 o fywydau bob blwyddyn yn y DU
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth cyrhaeddiant sgrinio ostwng mymryn yn 2016/17 o ganlyniad i newidiadau yn yr ystod oedran a hefyd newid yn y blwch rhwng gwahoddiadau ar gyfer profion ddaeth i rym yn Medi 2013.
"Mae profion newydd wedi golygu gostwng ymhellach yr angen am ailadrodd profion. Mae hwn yn batrwm sydd i weld ar draws y DU."
Ychwnaegodd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda'r byrddau iechyd er mwyn edrych ar ddulliau i gynyddu 'r niferoedd sy'n mynychu profion ym mhob ardal.
Yn y Deyrnas Unedig mae menywod rhwng 25-49 yn cael gwahoddiad i gael prawf sgrinio bob tair blynedd ac mae rhai rhwng 50-64 yn cael gwahoddiad bob pum mlynedd.
Y llynedd yng Nghymru fe wnaeth 236,300 o fenywod rhwng 25-64 dderbyn gwahoddiad ar gyfer sgrinio - gyda un o bob pedwar ddim yn mynychu.