Tinopolis yn cymryd rheolaeth lawn o'r cwmni eto
- Cyhoeddwyd

Tinopolis sy'n cynhyrchu rhaglen Heno i S4C
Mae perchnogion Tinopolis wedi cymryd rheolaeth lawn o'r cwmni teledu unwaith eto, ar ôl prynu cyfran oedd yn berchen i fuddsoddwyr preifat.
Roedd Vitruvian Partners yn rheoli 46% o Tinopolis ar ôl buddsoddi yn y cwmni teledu o Lanelli yn 2008.
Tinopolis sy'n cynhyrchu rhaglen Heno ar gyfer S4C, ynghyd â rhaglenni pêl-droed a rygbi i BT Sport a Question Time i'r BBC.
Ym mis Mawrth roedd y cwmni wedi dweud eu bod yn chwilio am brynwr i gyfran Vitruvian Partners.
Ond wedi'r cyhoeddiad diweddaraf, y gred yw nad yw'r cwmni yn chwilio am fuddsoddiad newydd erbyn hyn.
Nid oes disgwyl i'r newid effeithio ar waith cynhyrchu Tinopolis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2017
