Hen fam-gu yn euog o alwad bom ffug yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Deirdre MurphyFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Deirdre Murphy fod ei galwad ffug "yn anghywir yn llygad y gyfraith" ond ei bod yn "teimlo ei fod yn bwysig"

Mae rheithgor wedi cael hen fam-gu yn euog o wneud galwad ffug yn dweud bod bom yn Arena Motorpoint, Caerdydd.

Roedd Deirdre Murphy, 62, wedi dweud iddi wneud yr alwad er mwyn amharu ar ffair arfau.

Yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd Murphy - sydd wedi ymgyrchu yn erbyn y fasnach arfau ers sawl blwyddyn - ei bod am wagio'r adeilad er mwyn sicrhau nad oedd arfau'n cael eu prynu a'u gwerthu.

Fe'i cafwyd yn euog o ddau achos o gyfleu gwybodaeth ffug yn fwriadol a bydd hi'n cael eu dedfrydu ddydd Mercher.

'Teimlo ei fod yn bwysig'

Wrth gloi ei hachos fe apeliodd Murphy ar y rheithgor i'w chael yn ddieuog, gan ddweud: "Rwy'n gwybod bod beth wnes i yn anghywir yn llygad y gyfraith, ond roeddwn ni'n teimlo ei fod yn bwysig."

Roedd hefyd wedi nodi bod Nelson Mandela wedi ei ddisgrifio fel terfysgwr ac wedi torri'r gyfraith ar y pryd.

Wrth gael ei chroesholi, fe gytunodd Ms Murphy ei bod hi'n ymwybodol nad oedd bom yn yr adeilad pan wnaeth yr alwad i Heddlu De Cymru a chwmni Media Wales.

Dywedodd y barnwr Eleri Rees nad oedd "barn gref" Murphy ar werthiant arfau yn rhoi'r hawl iddi dorri'r gyfraith.

Disgrifiodd hi'r achos fel un "anarferol ond mor bwysig ag unrhyw un arall."