Pam fod rhan o'r A470 yn arogli fel garlleg?
- Cyhoeddwyd

Ydych chi erioed wedi teithio heibio'r gylchfan ar yr A470 ger Aberhonddu ac wedi cael chwa o wynt garlleg?
Mae'n debyg mai nid chi ydy'r unig un...
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Ond pam meddech chi?
Tafliad carreg o'r gylchfan yma mae ffatri sy'n prosesu toreth o wahanol fwydydd, gan gynnwys garlleg.
"Er bod llawer o deithwyr yn credu mai garlleg gwyllt o'r llwyni yw'r gwynt maen nhw'n ei arogli wrth fynd heibio'r gylchfan, mewn gwirionedd mae'n dod o ffatri gwneuthurwyr bwyd Beacon Foods," meddai cadeirydd y cwmni, Edward Gough.
"Rydym ni'n prosesu dros 1,200 tunnell o arlleg ffres y flwyddyn ac yn eu dosbarthu i Ewrop a thu hwnt."
Os nad oeddech chi'n gwybod yn barod, 'dych chi'n gwybod rŵan...
Oes yna arogl arbennig sy'n eich atgoffa chi o lefydd penodol? Cysylltwch efo ni drwy ebostio cymrufyw@bbc.co.uk