Dyn 21 oed yn gwadu llofruddio dynes yn y Rhyl
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Llys Aderyn Du yn Y Rhyl ar 9 Medi
Mae dyn 21 oed o'r Rhyl wedi gwadu llofruddio dynes 25 oed, a cheisio llofruddio aelodau o'i theulu.
Fe ymddangosodd Redvers Bickley yn Llys y Goron Wyddgrug trwy gyswllt fideo o garchar ym Manceinion, i wadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth Tyler Denton.
Fe wnaeth hefyd wadu tri chyhuddiad arall o geisio llofruddio Paul, Shannen a Cody Denton.
Clywodd y llys fod Mr Bickley yn derbyn ei fod wedi achosi anafiadau i Tyler Denton, ei chwiorydd a'u tad.
Mae disgwyl i'r achos ddechrau ar 5 Mawrth.

Bu farw Tyler Denton o'i hanafiadau