Dyn yn gwadu achosi marwolaeth dynes yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Chris Boardman drydar y llun hwn a theyrnged i'w fam Carol
Mae dyn wedi gwadu achosi marwolaeth dynes yn Sir y Fflint y llynedd drwy yrru'n beryglus.
Roedd hi ar ei beic pan fu mewn gwrthdrawiad â fan yng Nghei Connah.
Fe ymddangosodd Liam Rosney, 31 oed, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener, wedi ei gyhuddo o achosi ei marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Hefyd, fe ymddangosodd Victoria Rosney, 31 oed yn y llys, wedi ei chyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ac fe wadodd hi'r cyhuddiad.
Fe fydd y ddau, sydd yn dod o Gei Connah, yn sefyll eu prawf ar 9 Gorffennaf.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar gylchdro yng Nghei Connah
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2017

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2016
